Salmau 94:1-4-19-21 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. O dial, Arglwydd Dduw, ti farnwr byd,Rho’u haeddiant i’r rhai beilchion. Am ba hydY caiff y drwg, â’u parabl trahaus,Barhau i ymfalchïo mor sarhaus?

12-15. Gwyn fyd y sawl y dysgi iddo, O Dduw,Dy gyfraith, a’i ddisgyblu. Diogel ywRhag ing. Caiff eto d’etifeddiaeth diFarn deg, a’r uniawn yn ei dilyn hi.

16-18. Pwy a saif drosof rhag y rhai a wnaWeithredoedd drwg? Mi fyddwn, Arglwydd da,Yn nhir y bedd ond am dy gymorth di.Pan lithrwn, daliai dy ffyddlondeb fi.

19-21. Er bod pryderon mawr yn fy nhristáu,Mae dy gysuron di’n fy llawenhau.A wnei di gynghrair gyda barnwyr sy’nCondemnio’r cyfiawn, ac yn elwa’u hun?

Salmau 94