Salmau 60:1-2-6-7a Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Cosbaist ni, O Dduw, a’n bylchu,Digiaist wrthym ni.Gwnaethost i’r holl ddaear grynu,Ac fe’i holltaist hi.Simsan dan ei chlwyfau yw;Iachâ ei briw, ac achub hi.

3-5. Gwnaethost inni yfed wermod,Meddwaist ni â gwin.Ond fe roist i’r ffyddlon gysgodRhag y bwa blin.Er mwyn gwared d’annwyl rai,O maddau’n bai, ac ateb ni.

6-7a. Fe lefarodd y Goruchaf:“Af i fyny’n awr;Dyffryn Succoth a fesuraf,Rhannaf Sichem fawr.Mae Gilead, led a hyd,Manasse i gyd yn eiddo i mi.

Salmau 60