15-17. Gwelwyd gwaelodion y môr, a dinoethwyd holl seiliau’rByd gan dy gerydd di, Arglwydd, a chwythiad dy ffroenau.Tynnodd ef fiO ddyfroedd cryfion eu lli.Gwaredodd fi o’m holl frwydrau.
18-19. Daethant i’m herbyn yn lluoedd yn nydd fy nghaledi,Ond fe fu’r Arglwydd fy Nuw yn gynhaliaeth driw imi.Dug fi o’r tânI le agored a glân,Am ei fod ef yn fy hoffi.
20-24. Talodd yr Arglwydd i mi yn ôl glendid fy nwylo,Am imi gadw ei lwybrau, heb droi oddi wrtho.Cedwais o hydEi holl gyfreithiau i gyd:Cedwais fy hun rhag tramgwyddo.
25-27. Rwyt ti’n ddi-fai i’r di-fai, ac yn ffyddlon i’r ffyddlon,Pur i’r rhai pur, ond yn wyrgam i bawb sy’n elynion.Yr wyt yn haelAt y rhai gwylaidd a gwael,Ac yn darostwng y beilchion.
28-30. Ti sy’n goleuo fy llusern, yn troi nos yn nefoedd.Trwot ti neidiaf dros fur a goresgyn byddinoedd.Tarian o ddur,Profwyd ei air ef yn bur.Perffaith yw Duw’n ei weithredoedd.