Salmau 119:57-60-73-76 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

57-60. Ti yw fy rhan, O Arglwydd;Addewais gadw d’air.Rwy’n erfyn, bydd drugarog,Yn ôl d’addewid daer.At dy farnedigaethauFy nghamre a drof fi,A brysio a wnaf i gadwDy holl orchmynion di.

61-64. Dy gyfraith nid anghofiais,Os tyn yw clymau’r fall,Ac am dy farnau cyfiawnMoliannaf di’n ddi-ball.Rwyt ffrind i bawb sy’n cadwD’ofynion di. Mae’r bydYn llawn o’th gariad, Arglwydd;Dysg im dy ddeddfau i gyd.Eirinwg 98.98.D

65-68. Yn unol â’th air, Arglwydd, gwnaethostDdaioni i mi. Dysg i’th wasIawn farnu, cans rwyf yn ymddiriedYn llwyr yng ngorchmynion dy ras.Fe’m cosbaist am fynd ar gyfeiliorn;Yn awr wrth dy air rwyf yn byw.Da wyt, ac yn gwneuthur daioni.Dysg imi dy ddeddfau, O Dduw.

69-72. Parddua’r trahaus fi â chelwydd,Ond cadwaf d’ofynion o hyd.Trymhawyd eu calon gan fraster,Ond dygodd dy gyfraith fy mryd.Mor dda yw i mi gael fy nghosbiEr mwyn imi ddysgu dy air!Mae cyfraith dy enau’n well imiNa miloedd o arian ac aur.Crug-y-bar 98.98.D

73-76. Dy ddwylo a’m gwnaeth; rho im ddeallI ddysgu d’orchmynion; fe bairLawenydd i bawb sy’n dy ofniFy ngweld yn gobeithio yn dy air.Mi wn fod dy farnau yn gyfiawn,Ac nad oedd dy gosb ond gwaith gras.O tyrd i’m cysuro â’th gariad,Yn ôl dy addewid i’th was.

Salmau 119