Salm 90:9-13 Salmau Cân 1621 (SC)

9. Cans drwy dy ddig mae’n dyddiau ni,a’n tegwch gwedi darfod:A’n holl flynyddoedd ynt ar ben,fel gorphen hen chwedl gorfod.

10. Ein holl flynyddoedd yw saith ddeg,dau pump chwaneg os bydd grym:Yna ein nerth ai’n boen blin iawn,i ffordd yr awn yn gyflym.

11. Ond pwy a edwyn nerth dy lid?mawr ofid sydd o’th sorri:Sef fel y mae dy ofn di’n fawr,dy ddig sydd ddirfawr inni.

12. Dysg felly’n rifo’n dyddiau gwael,i’n calon gael doethineb.

13. Duw ba hyd? dyrd a dod yn hawddi’th weision nawdd ac undeb.

Salm 90