5. Ystyriais yna’r dyddiau gynt,a’r helynt hen o’r cynfyd.
6. Cofiwn fy ngherdd y nos fy hun,heb gael amrantun, chwiliwnA chalon effro, genau mud,â’m hyspryd ymddiddanwn:
7. Ai’n dragywydd y cilia’r Ion?a fydd ef bodlon mwyach?
8. A ddarfu byth ei nawdd a’i air?a gair ei addaw bellach?
9. Anghofiodd Duw drugarhâu?a ddarfu cau ei galon?A baid efe byth (meddwn i)fal hyn â sorri’n ddigllon?
10. Marwolaeth ym’ yw’r meddwl hwn:a throis yn grwn i gofioEi fawr nerth gynt: cofio a wnaf,waith y Goruchaf etto.