13. Ofer iawn fu i mi warhau,a llwyr lanhau fy nghalon:Golchi fy nwylo, caru gwir,a bod yn hir yn gyfion:
14. Cael fy maeddu ar hyd y dydd:ond trwstan fydd uniondeb,Os y borau, ac os pryd nawn,myfi a gawn wrthwyneb.
15. Hyn os dwedwn, a feddyliwn,o ryw feddalaidd ammau,Wele, a’th blant di y gwnawn gam,i ddwyn un llam a minnau.
16. Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,o nerth fy synwyr ddynol,Hynny i’m golwg i oedd flin,nes cael rhyw rin ysprydol.