Salm 50:9-13 Salmau Cân 1621 (SC)

9. Ni chymeraf o’th dy un llo,na hyfr a fo’n dy gorlan,

10. Mi biau’r da’n y maes sy’n gwauar fil o frynniau allan.

11. Pob aderyn erbyn ei ben,a adwen ar y mynydd.Pob da maesydd, y lle y maen,y maent o’m blaen i beunydd.

12. Nid rhaid ym’ ddangos i ti hyn,pe delai newyn arnaf,Ac yn eiddo fi yr holl fyd,a’i dda i gyd yn llownaf.

13. A’i cig y teirw fydd fy mwyd? na thyb:nid wyd ond angall:Ai gwaed hyfrod fydd fy niod?dysg o newydd ddeall.

Salm 50