Salm 45:13-16 Salmau Cân 1621 (SC)

13. Ond merch y brenin, glân o fewn,anrhydedd llawn sydd iddi:A gwisg o aur a gemmau glânoddiallan sydd am dani.

14. Mewn gwaith gwe nodwydd y daw honyn wych gar bron ei harglwydd,Ac a’i gwyryfon gyda hidaw attad ti yn ebrwydd.

15. Ac mewn llawenydd mawr a heddac mewn gorfoledd dibrin,Hwyntwy a ddeuant wrth eu gwysi gyd i lys y brenin.

16. Dy feibion yn attegion tauyn lle dy dadau fyddant,Tywysogaethau drwy fawrhâd,yn yr holl wlâd a feddant.

Salm 45