Salm 18:12-16 Salmau Cân 1621 (SC)

12. Ac yn eu gyrru’n genllysg mân,a marwor tân i wared.

13. Gyrrodd daranau, dyna’i lef,gyrrodd o’r nef gennadon.

14. Cenllysg, marwar tân, mellt yn gwau,fal dyna’i saethau poethion.

15. Distrywiwyd dy gas: felly gyntgan chwythiad gwynt o’th enau:Gwasgeraist di y moroedd mawr,gwelwyd y llawr yn olau.

16. Felly gwnaeth Duw a mi’r un moddanfonodd o’r uchelder,Ac a’m tynnodd, o’r lle yr oeddi’m hamgylch ddyfroedd lawer.

Salm 18