Salm 17:7-10 Salmau Cân 1621 (SC)

7. Cyfranna dy ddaionus râd,(ti rhwn wyt geidwad ffyddlon)I’r rhai sy’n ymroi dan dy law,rhag broch, a braw y trawsion.

8. Cadw fi’n anwyl rhag eu twyll,os anwyl canwyll llygad:Ynghysgod dy adenydd di,o cadw fi yn wastad.

9. Rhag yr annuwiol a’i mawr bwys,a rhag fy nghyfrwys elyn,Y rhai a gais fy enaid i,gan godi yn fy erbyn.

10. Maent hwy mor dordyn ac mor frâs,ac yn rhy gâs eu geiriau:Ac yn rhoi allan ffrost ar lled,gan falched eu parablau.

Salm 17