Salm 147:8-11 Salmau Cân 1621 (SC)

8. Hwn â chymylau troes y nen,â glaw’r ddayaren gwlychodd,I wellt gwnaeth dyfu ar y fron,a llysiau’i ddynion parodd.

9. Hwn i’r anifael ar y bryna rydd yr hwn a’i portho:Fe bortha gywion y cigfrain,pan fo’nt yn llefain arno.

10. Nid oes gantho mewn grym un march,na serch na pharch, na phleser:Nac mewn esgair, neu forddwyd gwr,fal dyna gyflwr ofer.

11. Yr Arglwydd rhoes ei serch ar ddyn,yr hwn y sy’n ei hoffi:Ac sydd yn disgwyl cael ei nawdd,caiff hwn yn hawdd ddaioni.

Salm 147