Salm 138:1-3 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Rhof fawrglod iti, fy Nuw Ion,o ddyfnder calon canaf:Yngwydd holl Angylion y nef,â’m hoslef i’th foliannaf.

2. Ymgrymmaf tua’th sanctaidd dy,dan ganu o’th drugaredd:A’th enw mawr uwchlaw pob peth,a’th air difeth wirionedd.

3. Y dydd gelwais arnat ti,gwrandewaist ti yn fuan:Yno y nerthaist â chref blaid,ef enaid i oedd egwan.

Salm 138