Salm 115:10-13 Salmau Cân 1621 (SC)

10. O ty Aron, dod tithau’n rhwydd,ar yr Arglwydd dy hollfryd:Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,eu porth a’i tarian hefyd.

11. Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion,rhowch arno’ch union hollfryd.Efe yw’r neb a’ch dwg i’r lan,eich porth a’ch tarian hefyd.

12. Duw nef a’n cofiodd, ac i’n plithfo roes ei fendith rhadlon:I dy Israel rhydd ei hedd,ac unwedd i dy Aaron.

13. Sawl a’i hofnant bendithiant ef,yr Arglwydd nef canmolan:A’i enw sanct o’r nef i’r llawr,bendithied mawr a bychan:

Salm 115