Y Pregethwr 1:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Geiriau yr Athro, mab Dafydd; brenin yn Jerwsalem.

2. Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – dydy e'n gwneud dim sens!Mae'r cwbl yn hollol abswrd!

3. Beth ydy'r pwynt gwneud unrhyw beth?Beth sydd i'w ennill o weithio'n galed yn y byd yma?

4. Mae un genhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod,ond dydy'r byd ddim yn newid o gwbl.

Y Pregethwr 1