Numeri 16:13-26 beibl.net 2015 (BNET)

13. Nid peth bach ydy'r ffaith dy fod ti wedi dod â ni o wlad ffrwythlon, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, allan i'r anialwch yma i farw! A dyma ti nawr yn actio'r tywysog ac yn meddwl mai ti ydy'r bòs!

14. Y gwir ydy, dwyt ti ddim wedi'n harwain ni i wlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, na wedi rhoi tir a gwinllannoedd i ni. Wyt ti'n meddwl fod y dynion yma'n ddall neu rywbeth? Felly, dŷn ni ddim am ddod atat ti.”

15. Roedd Moses wedi gwylltio'n lân, a dyma fe'n dweud wrth yr ARGLWYDD, “Paid derbyn eu hoffrymau nhw! Dw i ddim wedi cymryd cyn lleied ag un mul oddi arnyn nhw, na gwneud dim i frifo run ohonyn nhw!”

16. Yna dyma Moses yn dweud wrth Cora, “Dos di a'r rhai sydd gyda ti i sefyll o flaen yr ARGLWYDD yfory – ti, a nhw, ac Aaron hefyd

17. Dylai pob un ohonoch chi fynd gyda'i badell dân, rhoi arogldarth ynddi, a'i gyflwyno i'r ARGLWYDD: dau gant a hanner i gyd, a ti dy hun, ac Aaron – pawb gyda'i badell dân.”

18. Felly dyma pawb yn mynd gyda'i badell, ac yna ei thanio a rhoi arogldarth arni, a sefyll wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, gyda Moses ac Aaron.

19. Dyna lle roedd Cora a'i ddilynwyr i gyd yn sefyll yn erbyn Moses ac Aaron o flaen Pabell Presenoldeb Duw. A dyma'r bobl i gyd yn gweld ysblander yr ARGLWYDD.

20. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:

21. “Symudwch i ffwrdd oddi wrth y criw yma, i mi eu dinistrio nhw yn y fan a'r lle!”

22. Ond dyma Moses ac Aaron yn plygu a'i hwynebau ar lawr, “O Dduw, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, wyt ti'n mynd i ddigio gyda pawb pan mae un dyn yn pechu?”

23. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses,

24. “Dywed wrth y bobl am symud i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan ac Abiram.”

25. Yna dyma Moses yn codi ar ei draed a mynd at Dathan ac Abiram. A dyma arweinwyr Israel yn mynd gydag e.

26. A dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Symudwch i ffwrdd oddi wrth bebyll y dynion drwg yma. Peidiwch cyffwrdd dim byd sydd piau nhw, rhag i chi gael eich ysgubo i ffwrdd gyda nhw am eu bod wedi pechu.”

Numeri 16