9. Dyma fi'n mynd at lywodraethwyr Traws-Ewffrates, a cyflwyno'r dogfennau gefais gan y brenin iddyn nhw. Roedd y brenin wedi rhoi swyddogion o'r fyddin a marchogion i fynd gyda mi.
10. Ond doedd Sanbalat o Horon, a Tobeia (y swyddog o Ammon), ddim yn hapus o gwbl fod rhywun wedi cael ei anfon i helpu pobl Israel.
11. Dri diwrnod ar ôl i mi gyrraedd Jerwsalem,
12. dyma fi'n codi ganol nos a mynd allan gyda'r ychydig ddynion oedd gen i. Yr unig anifail oedd gyda ni oedd yr un roeddwn i'n reidio ar ei gefn. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb beth roedd Duw wedi rhoi awydd yn fy nghalon i i'w wneud yn Jerwsalem.
13. Dyma fi'n mynd allan drwy Giât y Dyffryn ganol nos, a troi i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig a Giât y Sbwriel i edrych ar gyflwr y waliau oedd wedi eu chwalu a'r giatiau oedd wedi eu llosgi.
14. Es ymlaen at Giât y Ffynnon a Pwll y Brenin, ond wedyn doedd dim posib i'r anifail fynd ddim pellach.
15. Tra roedd hi'n dal yn dywyll dyma fi'n mynd i lawr i ddyffryn Cidron ac edrych ar gyflwr y waliau o'r fan honno. Wedyn trois yn ôl, a mynd yn ôl i'r ddinas drwy Giât y Dyffryn.