Micha 2:3-7 beibl.net 2015 (BNET)

3. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma.Fydd dim modd i chi ddianc!Dim mwy o swancio i chi! –mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg!

4. Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chidrwy ganu galarnad i chi'n sbeitlyd –‘Mae ar ben arnon ni!Mae ein tir yn cael ei werthu!Mae Duw wedi cymryd y cwbl,a rhoi ein tir i fradwyr anffyddlon!’”

5. Felly fydd neb yn mesur y tir etoi chi gael siâr ohonogyda phobl yr ARGLWYDD.

6. “Stopia falu awyr!” medden nhw'n lloerig.“Ddylai neb siarad fel yna!Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.”

7. Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? –“Dydy'r ARGLWYDD ddim yn colli ei dymer.Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!”“Mae'r pethau da dw i'n eu haddo yn digwyddi'r rhai sy'n byw yn iawn.

Micha 2