Micha 1:11-15 beibl.net 2015 (BNET)

11. Bydd pobl Shaffir yn pasio heibioyn noeth ac mewn cywilydd.Bydd pobl Saänan yn methu symud,a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru –fydd hi ddim yn dy helpu eto.

12. Bydd pobl Maroth yn aflonyddwrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwyddna'r difrod mae'r ARGLWYDD wedi ei anfon,ac sy'n gwasgu ar giatiau Jerwsalem.

13. Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau,bobl Lachish!Chi wnaeth wrthryfela fel Israelac arwain pobl Seion i bechu!

14. Bydd rhaid i chi ddweud ffarwélwrth Moresheth-gath,a bydd tai Achsib yn siomi –bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel.

15. Bobl Maresha, bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref,a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam eto.

Micha 1