Mathew 16:14-16 beibl.net 2015 (BNET)

14. “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud Jeremeia neu un o'r proffwydi.”

15. “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?”

16. Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy'r Meseia, Mab y Duw byw.”

Mathew 16