Lefiticus 2:14-16 beibl.net 2015 (BNET)

14. “Os wyt ti'n dod ag offrwm o rawn cyntaf y cynhaeaf i'r ARGLWYDD, defnyddia rawn aeddfed meddal wedi ei rostio neu ei falu'n flawd.

15. Ychwanega olew olewydd ato, a rhoi thus arno – offrwm o rawn ydy e.

16. Wedyn mae'r offeiriad i losgi peth ohono fel ernes – y grawn wedi ei wasgu, yr olew a'r thus. Offrwm i gael ei losgi i'r ARGLWYDD ydy e.

Lefiticus 2