Josua 18:10-15 beibl.net 2015 (BNET)

10. A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu'r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael.

11. Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai'r ardal rhwng tir Jwda a tir meibion Joseff.

12. Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o Afon Iorddonen ar hyd y llethr i'r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i'r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen.

13. Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf.

14. Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin.

15. Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearim, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach.

Josua 18