9. A dyma Jona'n ateb, “Hebrëwr ydw i. Dw i'n addoli'r ARGLWYDD, Duw y nefoedd. Fe ydy'r Duw sydd wedi creu y môr a'r tir.”
10. Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi'i wneud o'i le?” medden nhw. (Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n ceisio dianc oddi wrth yr ARGLWYDD, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw'n gynharach.)
11. Roedd y storm yn mynd o ddrwg i waeth. A dyma'r morwyr yn gofyn i Jona, “Beth wnawn ni hefo ti? Oes rhywbeth allwn ni wneud i dawelu'r storm yma?”
12. Dyma fe'n ateb, “Taflwch fi i'r môr a bydd y storm yn tawelu. Arna i mae'r bai eich bod chi yn y storm ofnadwy yma.”
13. Ond yn lle gwneud hynny dyma'r morwyr yn ceisio rhwyfo'n galed i gyrraedd y tir. Ond methu wnaethon nhw; roedd y storm yn dal i fynd o ddrwg i waeth.