Ioan 5:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Beth amser yn ddiweddarach, aeth Iesu i Jerwsalem eto i un o wyliau'r Iddewon.

2. Yn Jerwsalem wrth ymyl Giât y Defaid mae pwll o'r enw Bethsatha (enw Hebraeg). O gwmpas y pwll mae pum cyntedd colofnog gyda tho uwchben pob un.

3. Roedd nifer fawr o bobl anabl yn gorwedd yno – rhai yn ddall, eraill yn gloff neu wedi eu parlysu.

5. Roedd un dyn yno oedd wedi bod yn anabl ers tri deg wyth o flynyddoedd.

Ioan 5