12. “Dewch i gael brecwast,” meddai Iesu. Doedd dim un o'r disgyblion yn meiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” – roedden nhw yn gwybod yn iawn mai'r Arglwydd oedd e.
13. Yna dyma Iesu'n cymryd y bara a'i roi iddyn nhw, a gwneud yr un peth gyda'r pysgod.
14. Dyma'r trydydd tro i Iesu adael i'w ddisgyblion ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw.
15. Pan roedden nhw wedi gorffen bwyta, dyma Iesu'n troi at Simon Pedr a dweud, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na'r rhain?”“Ydw, Arglwydd,” atebodd, “rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.”Dwedodd Iesu wrtho, “Gofala am fy ŵyn.”