45. Pan maen nhw yn fy ngweld i maen nhw'n gweld yr un sydd wedi fy anfon i.
46. Dw i wedi dod fel golau i'r byd, fel bod dim rhaid i'r bobl sy'n credu ynof fi aros yn y tywyllwch.
47. “Ond am y rhai sydd wedi clywed beth dw i'n ei ddweud a gwrthod ufuddhau – dim fi sy'n eu condemnio nhw. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio'r byd.
48. Ond bydd pawb sy'n fy ngwrthod i ac yn gwrthod derbyn beth dw i'n ei ddweud yn cael eu barnu – bydd beth ddwedais i yn eu condemnio nhw ar y dydd olaf.
49. Dw i ddim wedi siarad ar fy liwt fy hun. Y Tad sydd wedi fy anfon i sydd wedi dweud wrtho i beth i'w ddweud, a sut i'w ddweud.