4. Maen nhw i gyd yn godinebu!Maen nhw fel popty crasboeth –does dim rhaid i'r pobydd brocio'r tântra mae'n tylino'r toes,na pan mae'n cael ei bobi!
5. Mae'r brenin yn cynnal parti,ac mae'r tywysogion yn meddwi;Mae e'n cynllwynio gyda paganiaid
6. ac yn troi ata i gan fwriadu brad.Bwriadau sydd fel popty poeth,yn mudlosgi drwy'r nosac yn cynnau'n fflamau tân yn y bore.
7. Maen nhw i gyd fel popty crasboeth,yn lladd eu llywodraethwyr.Mae eu brenhinoedd i gyd wedi syrthio,a does dim un yn galw arna i!