Genesis 5:22-28 beibl.net 2015 (BNET)

22. Roedd gan Enoch berthynas agos gyda Duw, a buodd fyw am 300 mlynedd ar ôl i Methwsela gael ei eni, a chafodd blant eraill.

23. Felly dyma Enoch yn byw i fod yn 365 oed.

24. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw, ond yn sydyn doedd e ddim yna. Roedd Duw wedi ei gymryd i ffwrdd.

25. Pan oedd Methwsela yn 187 oed cafodd ei fab Lamech ei eni.

26. Buodd Methwsela fyw am 782 o flynyddoedd ar ôl i Lamech gael ei eni, a chafodd blant eraill.

27. Felly roedd Methwsela yn 969 oed yn marw.

28. Pan oedd Lamech yn 182 oed cafodd fab,

Genesis 5