Genesis 38:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Tua'r adeg honno dyma Jwda yn gadael ei frodyr ac ymuno â dyn o Adwlam o'r enw Hira.

2. Yno dyma fe'n cyfarfod ac yn priodi merch i ddyn o Canaan o'r enw Shwa. Cysgodd gyda hi,

3. a dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. Galwodd Jwda'r plentyn yn Er.

4. Wedyn dyma hi'n beichiogi eto ac yn cael mab arall a'i alw yn Onan.

5. A chafodd fab arall eto a'i alw yn Shela. Roedd Jwda yn Chesib pan gafodd hi'r plentyn hwnnw.

Genesis 38