9. Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe'n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor.
10. Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab.
11. Ond dyma angel yr ARGLWYDD yn galw arno o'r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? dyma fi” meddai Abraham.
12. “Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i'n gwybod bellach dy fod ti'n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti.”
13. Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a'i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab.