Genesis 22:1-3 beibl.net 2015 (BNET)

1. Beth amser wedyn dyma Duw yn rhoi Abraham ar brawf. “Abraham!” meddai Duw. “Ie, dyma fi,” atebodd Abraham.

2. Ac meddai Duw wrtho, “Cymer dy fab Isaac – yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti'n ei garu – a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o'r mynyddoedd. Bydda i'n dangos i ti pa un.”

3. Felly dyma Abraham yn codi'n fore, torri coed ar gyfer llosgi'r offrwm, a'u rhoi ar gefn ei asyn. Aeth â dau o'i weision ifanc gydag e, a hefyd ei fab, Isaac. A dechreuodd ar y daith i ble roedd Duw wedi dweud wrtho.

Genesis 22