Diarhebion 31:22-28 beibl.net 2015 (BNET)

22. Mae hi'n gwneud cwiltiau i'r gwely,a dillad o liain main drud.

23. Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas,ac yn eistedd gyda'r arweinwyr i gyd.

24. Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu,a dillad i'r masnachwyr eu prynu.

25. Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol,ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus.

26. Mae hi'n siarad yn ddoeth bob amser,ac yn garedig wrth ddysgu eraill.

27. Mae hi'n gofalu am y teulu i gyd,a dydy hi byth yn segur.

28. Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni;ac mae ei gŵr yn ei chanmol i'r cymylau,

Diarhebion 31