Datguddiad 5:9-12 beibl.net 2015 (BNET)

9. Roedden nhw'n canu cân newydd:“Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôlac i dorri y seliau,am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth,ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed –pobl o bob llwyth ac iaith,hil a chenedl.

10. Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhwa'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw.Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.”

11. Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol,

12. ac yn canu'n uchel:“Mae'r Oen gafodd ei ladd yn deilwngi dderbyn grym a chyfoeth,doethineb a nerth,anrhydedd, ysblander a mawl!”

Datguddiad 5