1. Yna gwelais angel yn dod i lawr o'r nefoedd, gyda'r allwedd i'r pydew diwaelod, ac roedd cadwyn drom yn ei law.
2. Gafaelodd yn y ddraig (yr hen sarff, sef ‛y diafol‛, ‛Satan‛), a'i rhwymo'n gaeth am fil o flynyddoedd.
3. Dyma'r angel yn ei thaflu hi i lawr i'r pydew diwaelod, ai gloi a'i selio er mwyn rhwystro'r ddraig rhag twyllo'r cenhedloedd ddim mwy, nes bydd y mil o flynyddoedd drosodd. Ar ôl hynny mae'n rhaid iddi gael ei gollwng yn rhydd am gyfnod byr.