Datguddiad 19:6-10 beibl.net 2015 (BNET)

6. Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel:“Haleliwia!Mae'r Arglwydd Dduw Hollalluogwedi dechrau teyrnasu.

7. Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddua rhoi clod iddo!Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd,ac mae'r ferch sydd i'w briodi wedi gwneud ei hun yn barod.

8. Mae hi wedi cael gwisg briodaso ddefnydd hardd, disglair a glân.”(Mae'r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.)

9. Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna hyn i lawr: ‘Mae'r rhai sy'n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi eu bendithio'n fawr!’” Wedyn dyma fe'n dweud, “Neges gan Dduw ydy hon, ac mae'n wir.”

10. Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a'i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy'r unig un rwyt i'w addoli! Un sy'n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a'th frodyr a'th chwiorydd sy'n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu. Mae'r dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”

Datguddiad 19