Datguddiad 18:8-14 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dyna'n union pam bydd y plâu yn ei tharo'n sydyn:marwolaeth, galar a newyn.Bydd yn cael ei dinistrio gan dân,oherwydd mae'r Arglwydd Dduw sy'n ei barnu hi yn Dduw grymus!

9. “Bydd brenhinoedd y ddaear gafodd ryw gyda'r butain a rhannu ei moethusrwydd, yn crïo'n chwerw wrth weld y mwg yn codi pan gaiff ei llosgi.

10. Byddan nhw'n sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef, ac yn gweiddi:‘Och! Och! Ti ddinas fawr!Babilon, y ddinas oedd â'r fath rym! –Daeth dy ddiwedd mor sydyn!’

11. “Bydd pobl fusnes y ddaear yn crïo ac yn galaru drosti hi am fod neb yn prynu ei chargo ddim mwy –

12. cargo o aur, arian, gemau gwerthfawr a pherlau, lliain main, defnydd porffor, sidan ac ysgarlad; nwyddau o goed Sitron, pethau wedi eu gwneud o ifori, a pob math o bethau eraill wedi eu gwneud o goed gwerthfawr, o efydd, haearn ac o farmor;

13. sinamon a pherlysiau, arogldarth fel myrr a thus, hefyd gwin ac olew olewydd, blawd mân a gwenith; gwartheg, defaid, ceffylau a cherbydau; a chaethweision hefyd – ie, pobl yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid.

14. “Mae'r holl bethau roeddet ti'n dyheu amdanyn nhw wedi mynd! Dy holl gyfoeth a dy grandrwydd wedi diflannu! Fyddan nhw fyth yn dod nôl!

Datguddiad 18