Datguddiad 16:7-13 beibl.net 2015 (BNET)

7. A dyma fi'n clywed rhywun o'r allor yn ateb:“Ie wir, Arglwydd Dduw Hollalluog,mae dy ddyfarniad di bob amseryn deg ac yn gyfiawn.”

8. Dyma'r pedwerydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr haul, a dyma'r haul yn cael y gallu i losgi pobl gyda'i wres.

9. Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi yn y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli'r plâu. Roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi'r clod iddo.

10. Yna dyma'r pumed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar orsedd yr anghenfil, a dyma'i deyrnas yn cael ei bwrw i dywyllwch dudew. Roedd pobl yn brathu eu tafodau mewn poen

11. ac yn melltithio Duw y nefoedd o achos y poen a'r briwiau ar eu cyrff. Ond roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a throi cefn ar beth roedden nhw'n ei wneud.

12. Yna dyma'r chweched angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr afon fawr Ewffrates. Sychodd yr afon fel bod brenhinoedd o'r dwyrain yn gallu ei chroesi.

13. Wedyn gwelais dri ysbryd drwg oedd yn edrych rywbeth tebyg i lyffaint. Daethon nhw allan o geg y ddraig, a cheg yr anghenfil a cheg y proffwyd ffug.

Datguddiad 16