Barnwyr 20:24-30 beibl.net 2015 (BNET)

24. Felly dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin yr ail ddiwrnod.

25. Ond dyma filwyr Benjamin yn dod allan o Gibea unwaith eto, a lladd un deg wyth mil arall o filwyr Israel.

26. Felly dyma fyddin Israel i gyd yn mynd yn ôl i Bethel. Buon nhw'n eistedd yno'n crïo o flaen yr ARGLWYDD, a wnaethon nhw ddim bwyta o gwbl nes roedd hi wedi nosi. Dyma nhw hefyd yn cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.

27-28. Dyna lle roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar y pryd, gyda Phineas (mab Eleasar ac ŵyr i Aaron) yn gwasanaethu fel offeiriad. A dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu roi'r gorau iddi?”A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw! Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn eich dwylo chi.”

29. Felly dyma Israel yn anfon dynion i guddio o gwmpas Gibea, i ymosod yn ddirybudd.

30. Y diwrnod wedyn dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymosod ar lwyth Benjamin eto. Dyma nhw'n mynd ac yn sefyll mewn trefn fel o'r blaen, yn barod i ymosod ar Gibea.

Barnwyr 20