Amos 3:13-15 beibl.net 2015 (BNET)

13. Gwranda ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus—

14. “Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela,bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel.Bydd y cyrn ar gorneli'r alloryn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr.

15. Bydda i'n dymchwel eu tai, a'u tai haf nhw hefyd.Bydd y tai oedd wedi eu haddurno ag ifori yn adfeilion.Bydd y plastai yn cael eu chwalu'n llwyr!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Amos 3