Amos 3:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft.

2. “O blith holl bobloedd y ddaear,chi ydy'r rhai wnes i ddewis –a dyna pam mae'n rhaid i mi eich galw chi i gyfrifam yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”

3. Ydy dau berson yn gallu teithio gyda'i gilyddheb fod wedi trefnu i gyfarfod?

4. Ydy llew yn rhuo yn y goedwigpan does ganddo ddim ysglyfaeth?Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffauoni bai ei fod wedi dal rhywbeth?

Amos 3