2 Samuel 12:20-25 beibl.net 2015 (BNET)

20. Yna dyma Dafydd yn codi oddi ar lawr, yn ymolchi, rhoi olew ar ei wyneb a newid ei ddillad. Ac aeth i babell yr ARGLWYDD i addoli. Wedyn aeth yn ôl adre i'r palas a bwyta pryd o fwyd.

21. A dyma'i swyddogion yn gofyn iddo, “Pam wyt ti'n ymddwyn fel yma? Pan oedd y plentyn yn dal yn fyw roeddet ti'n crïo ac yn ymprydio. Ond nawr mae'r plentyn wedi marw dyma ti'n codi ac yn bwyta!”

22. Atebodd Dafydd, “Tra roedd y plentyn yn dal yn fyw ron i'n ymprydio ac yn crïo. Ro'n i'n meddwl falle y byddai'r ARGLWYDD yn tosturio ac yn gadael i'r plentyn fyw.

23. Ond nawr mae e wedi marw. Does dim pwynt gwrthod bwyd bellach. Alla i ddim dod ag e'n ôl. Bydda i yn mynd ato fe, ond wnaiff e ddim dod yn ôl ata i.”

24. Yna dyma Dafydd yn mynd i gysuro ei wraig, Bathseba. Cysgodd gyda hi a cael rhyw gyda hi. Cafodd fab iddo, a dyma nhw'n ei alw'n Solomon. Roedd yr ARGLWYDD yn caru'r plentyn,

25. a dyma fe'n rhoi neges drwy'r proffwyd Nathan yn dweud ei fod i gael ei alw'n Iedida, sef “Mae'r ARGLWYDD yn ei garu.”

2 Samuel 12