10. am bron ddwy flynedd cyn llwyddo i'w choncro hi. Felly cafodd Samaria ei choncro yn ystod chweched flwyddyn Heseceia fel brenin, a nawfed blwyddyn Hoshea yn frenin ar Israel,
11. a dyma frenin Asyria yn cymryd pobl Israel yn gaethion i Asyria. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.
12. Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel heb wrando ar ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw, ac wedi diystyru'r gorchmynion roedd ei was Moses wedi eu rhoi iddyn nhw.
13. Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda, a'u dal nhw.
14. A dyma Heseceia, brenin Jwda, yn anfon y neges yma at frenin Asyria, oedd yn Lachish: “Dw i wedi bod ar fai. Os gwnei di droi'n ôl, gwna i dalu faint bynnag wyt ti'n ei ofyn.” A dyma frenin Asyria yn rhoi dirwy o naw mil cilogram o arian a naw cant cilogram o aur i Heseceia, brenin Jwda.
15. Felly dyma Heseceia'n rhoi'r holl arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas i Asyria.
16. Dyna pryd wnaeth e stripio'r aur oedd e wedi ei roi ar ddrysau'r deml a'u fframiau, i dalu brenin Asyria.
17. Er hynny dyma frenin Asyria yn anfon ei brif swyddog milwrol, ei brif gynghorydd, a phrif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, gyda byddin enfawr. Dyma nhw'n cyrraedd Jerwsalem a mynd i sefyll wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, sydd ar y ffordd i Faes y Pannwr.
18. Yna dyma nhw'n galw ar y brenin. Ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w cyfarfod, gyda Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd.