2 Brenhinoedd 14:23-27 beibl.net 2015 (BNET)

23. Pan oedd Amaseia fab Joas, wedi bod yn frenin Jwda am un deg pump o flynyddoedd, dyma Jeroboam fab Jehoas yn dod yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am bedwar deg un o flynyddoedd.

24. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.

25. Ennillodd dir yn ôl i Israel nes bod y ffin yn mynd o Fwlch Chamath yn y gogledd i'r Môr Marw yn y de. Roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud y byddai'n gwneud hynny trwy ei was Jona fab Amittai, y proffwyd o Gath-heffer.

26. Roedd yr ARGLWYDD wedi gweld bod pobl Israel yn cael eu cam-drin yn erchyll. Doedd neb o gwbl ar ôl, caeth na rhydd, i'w helpu.

27. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am gael gwared ag Israel yn llwyr, felly dyma fe'n anfon Jeroboam fab Jehoas i'w hachub nhw.

2 Brenhinoedd 14