3. Meibion Reuben (mab hynaf Israel):Hanoch, Palw, Hesron, a Carmi.
4. Disgynyddion Joel:Shemaia ei fab, wedyn Gog mab hwnnw, ac ymlaen drwy Shimei,
5. Micha, Reaia, Baal,
6. i Beëra oedd wedi cael ei gymryd yn gaeth gan Tiglath-pileser, brenin Asyria. Beëra oedd pennaeth llwyth Reuben.
7. Dyma ei frodyr wedi eu rhestru yn ôl y drefn yn y cofrestrau teuluol:Y pennaeth oedd Jeiel, yna Sechareia,
8. yna Bela fab Asas, ŵyr Shema a gor-ŵyr Joel. Roedd y rhain yn byw yn Aroer, a'u tir yn ymestyn i Nebo a Baal-meon.
9. I'r dwyrain roedd eu tir yn cyrraedd ymyl yr anialwch sydd yr ochr yma i'r Afon Ewffrates. Roedd angen y tir yma i gyd am fod ganddyn nhw ormod o anifeiliaid i'w cadw yn Gilead.