1 Cronicl 5:14-23 beibl.net 2015 (BNET)

14. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Afichaïl fab Chwri, mab Iaroach, mab Gilead, mab Michael, mab Ieshishai, mab Iachdo, mab Bws.

15. Achi, mab Afdiel ac ŵyr i Gwni oedd pennaeth y clan.

16. Roedden nhw'n byw yn Gilead ac ym mhentrefi Bashan, a drwy dir pori Saron i'r pen draw pellaf.

17. Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn y cofrestrau teuluol pan oedd Jotham yn frenin Jwda, a Jeroboam yn frenin ar Israel.

18. Rhwng y tri llwyth (Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse) roedd 44,760 o ddynion dewr oedd yn gallu ymladd. Roedd y rhain yn cario tarian a chleddyf, yn gallu trin bwa saeth, ac yn rhyfelwyr da.

19. Dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid, Ietwr, Naffish, a Nodab.

20. Cawson nhw help Duw i ymladd, a llwyddo i drechu'r Hagriaid a pawb oedd gyda nhw. Roedden nhw wedi galw ar Dduw yng nghanol y frwydr, a gofyn iddo am help. A dyma Duw yn gwrando arnyn nhw am eu bod nhw wedi ymddiried ynddo.

21. Yna dyma nhw'n cymryd anifeiliaid yr Hagriaid – 50,000 o gamelod, 250,000 o ddefaid, a 2,000 o asynnod. Dyma nhw hefyd yn cymryd 100,000 o bobl yn gaethion.

22. Am mai rhyfel Duw oedd hwn cafodd llawer iawn o'r gelynion eu lladd. Buon nhw'n byw ar dir yr Hagriaid hyd amser y gaethglud.

23. Dyma hanner llwyth Manasse yn setlo yn yr ardal hefyd. Roedd yna gymaint ohonyn nhw nes iddyn nhw ymledu o Bashan i Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon.

1 Cronicl 5