23. Roedd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft, saith troedfedd a hanner o daldra. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon fawr fel carfan gwehydd yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.
24. Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.
25. Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.
26. Dyma restr o'r milwyr dewr eraill: Asahel, brawd Joab, Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
27. Shamoth o Haror, Chelets o Pelon,
28. Ira fab Iccesh o Tecoa, Abieser o Anathoth,
29. Sibechai o Chwsha, Ilai o deulu Achoach,
30. Maharai o Netoffa, Cheled fab Baana o Netoffa,
31. Ithai fab Ribai o Gibea Benjamin, Benaia o Pirathon,
32. Chwrai o Wadi Gaash, Abiel o Arba,
33. Asmafeth o Bachwrîm, Eliachba o Shaalbon,
34. meibion Hashem o Gison, Jonathan fab Sage o Harar,
35. Achïam fab Sachar o Harar, Eliffal fab Wr
36. Cheffer o Mecherath, Achïa o Pelon
37. Chetsro o Carmel, Naärai fab Esbai,
38. Joel brawd Nathan, Mifchar fab Hagri,
39. Selec o Ammon, Nachrai o Beroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),
40. Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,
41. Wreia yr Hethiad, Safad fab Achlai
42. Adina fab Shisa, arweinydd llwyth Reuben, a'r tri deg o filwyr oedd gydag e,
43. Chanan fab Maacha, Ioshaffat o Mithna,