Y Salmau 89:42-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr,a gwneud i'w holl elynion lawenhau.

43. Yn wir, troist yn ôl fin ei gleddyf,a pheidio â'i gynnal yn y frwydr.

44. Drylliaist ei deyrnwialen o'i law,a bwrw ei orsedd i'r llawr.

45. Yr wyt wedi byrhau dyddiau ei ieuenctid,ac wedi ei orchuddio â chywilydd.Sela

46. Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ymguddio am byth,a'th eiddigedd yn llosgi fel tân?

47. Cofia mor feidrol ydwyf fi;ai yn ofer y creaist yr holl bobloedd?

48. Pwy fydd byw heb weld marwolaeth?Pwy a arbed ei fywyd o afael Sheol?Sela

Y Salmau 89