Y Salmau 89:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Ni fydd gelyn yn drech nag ef,na'r drygionus yn ei ddarostwng.

23. Drylliaf ei elynion o'i flaen,a thrawaf y rhai sy'n ei gasáu.

24. Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef,ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.

25. Gosodaf ei law ar y môr,a'i ddeheulaw ar yr afonydd.

26. Bydd yntau'n galw arnaf, ‘Fy nhad wyt ti,fy Nuw a chraig fy iachawdwriaeth.’

27. A gwnaf finnau ef yn gyntafanedig,yn uchaf o frenhinoedd y ddaear.

Y Salmau 89