Y Salmau 89:21-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. bydd fy llaw yn gadarn gydag ef,a'm braich yn ei gryfhau.

22. Ni fydd gelyn yn drech nag ef,na'r drygionus yn ei ddarostwng.

23. Drylliaf ei elynion o'i flaen,a thrawaf y rhai sy'n ei gasáu.

24. Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef,ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.

25. Gosodaf ei law ar y môr,a'i ddeheulaw ar yr afonydd.

26. Bydd yntau'n galw arnaf, ‘Fy nhad wyt ti,fy Nuw a chraig fy iachawdwriaeth.’

27. A gwnaf finnau ef yn gyntafanedig,yn uchaf o frenhinoedd y ddaear.

28. Cadwaf fy ffyddlondeb iddo hyd byth,a bydd fy nghyfamod ag ef yn sefydlog.

Y Salmau 89