Y Salmau 73:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster,a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.

8. Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar,yn sôn yn ffroenuchel am ormes.

9. Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd,ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear.

10. Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt,ac ni chânt unrhyw fai ynddynt.

11. Dywedant, “Sut y mae Duw'n gwybod?A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?”

12. Edrych, dyma hwy y rhai drygionus—bob amser mewn esmwythyd ac yn casglu cyfoeth.

Y Salmau 73